Dod o hyd i blentyn

Pam mae plant yn cael eu mabwysiadu yn y Deyrnas Unedig?

Mae tua 4,000 o blant yn aros i gael eu mabwysiadu yn y Deyrnas Unedig ar unrhyw adeg. Maen nhw'n tueddu i fod yn blant sydd eisoes o fewn y system gofal, yn aml yn byw gyda rhieni maeth, oherwydd iddynt gael eu symud oddi wrth eu rhieni biolegol am wahanol resymau. Ychydig iawn o fabanod sy'n cael eu 'rhoi i fyny' gan rieni i gael eu mabwysiadu.

Daw plant sy'n aros i gael eu mabwysiadu o amrywiaeth eang o gefndiroedd ethnig a diwylliannol, ac mae ganddyn nhw amrywiaeth eang o anghenion gwahanol. Mae llawer yn blant oed ysgol, mae gan rai frodyr a chwiorydd y mae angen eu lleoli gyda nhw, ac yn aml byddant wedi cael profiad o gamdriniaeth, esgeulustod ac ansefydlogrwydd cynnar, gan arwain at ymddygiad heriol.

Bydd gan rai plant anghenion arbennig, a bydd angen cymorth ychwanegol ar y rhan fwyaf i'w helpu i ddod i delerau â'r newidiadau yn eu bywydau.

Dod o hyd i'ch plant

Unwaith y byddwch wedi cael eich cymeradwyo i fabwysiadu, mae'n debygol y bydd cyfnod aros cyn eich bod yn cael eich paru gyda phlentyn. Gall hyn fod yn rhwystredig, ond mae yna bethau y gallwch eu gwneud i helpu'r broses yn ei blaen.*

Daliwch i ddarllen unrhyw beth perthnasol am fabwysiadu - defnyddiwch Lyfrgell Fenthyca Adoption UK, siaradwch gyda rhieni sy'n mabwysiadu, ewch i grŵp cefnogi lleol Adoption UK, darllenwch y cylchgrawn Adoption Today ac edrychwch ar ein Byrddau Negeseuon.

Mae yna ffyrdd hefyd i chi gymryd rhan ragweithiol wrth ddod o hyd i'ch plentyn:

  • Tanysgrifiwch iChildren Who Wait - mae cylchgrawn canfod teuluoedd Adoption UK a'r gwasanaeth ar-lein sy'n cyd-fynd yn cynnwys manylion dros 100 o blant sydd angen teuluoedd bob mis
  • Ewch i Ddyddia Cyfnewid - mae'r rhain yn dod ag asiantaetha, gyda manylion plant maen nhw'n gobeithio eu lleoli, a mabwysiadwyr sy'n aros am entyn at ei gilydd.
  • Defnyddiwch y Gofrestr Fabwysiadu ar gyfer Cymru a Lloegr - cronfa ddata o blant sydd angen eu mabwysiadu; dylai'ch asiantaeth anfon eich manylion at y Gofrestr o fewn tri mis i chi gael eich cymeradwyo os nad ydych wedi cael eich paru na'ch cysylltu gydag unrhyw blant
  • Gwnewch daflenni - anfonwch fanylion amdanoch eich hunain at asiantaethau eraill sydd â phlant i'w lleoli

Mabwysiadu plentyn gyda chyflwr meddygol, anabledd neu anghenion arbennig

Mae llawer o blant gydag amrywiaeth o anghenion neu gyflyrau meddygol angen teuluoedd sy'n mabwysiadu. Yn ogystal â darparu teulu cariadus ar eu cyfer, mae angen rhieni ar y plant hyn fydd yn gallu cwrdd â'u hanghenion ychwanegol a gweithredu fel 'eiriolwyr' i sicrhau eu bod yn derbyn y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

Gall y rhain fod yn blant â chyflyrau fel parlys yr ymennydd neu syndrom Down, neu rai fel Syndrom Alcohol y Ffoetws, sy'n ymwneud â pham y cawsant eu cymryd i'r system ofal yn y lle cyntaf.

Pan yn ystyried mabwysiadu plentyn yn y sefyllfa hwn, mae'n werth dysgu cymaint â phosibl am y cyflwr, sut mae'n effeithio ar y plentyn ac am unrhyw gefnogaeth ychwanegol sydd ganddynt, neu all fod ganddynt yn y dyfodol, parthed iechyd a/neu addysg. Os yn bosibl, gofynnwch i gwrdd â'r paediatregydd/meddyg/person proffesiynol arall cyfredol.

Mabwysiadu grŵp brodyr a/neu chwiorydd

Gellir mabwysiadu plant yn unigol, neu gyda'u brodyr a/neu eu chwiorydd. Os ydych yn dewis mabwysiadu grŵp o ddau neu ragor o blant, mae rhai materion i'w hystyried:

· Trefniadau byw blaenorol - ydyn nhw wedi byw gyda'i gilydd o'r blaen, yn y teulu biolegol neu gyda gofalwyr maeth. Os nad ydyn nhw wedi byw gyda'i gilydd o'r blaen, faint o gyswllt maen nhw wedi'i gael â'i gilydd?

· Ydyn nhw'n cyd-dynnu'n dda, ydyn nhw'n dadlau'n aml, beth sy'n gwneud iddyn nhw ddadlau? Beth yw canlyniad y dadlau fel arfer?

· Beth yw'r 'rolau' sefydledig yn y grŵp, ydy un ohonyn nhw'n gweithredu fel gofalwr dros y lleill, ydy un wedi cael ei ystyried yn 'ddrwg' neu wedi cael ei dargedu am fwy o gamdriniaeth na'r lleill?

· Ai'r un rhieni biolegol sydd ganddyn nhw?

Mabwysiadu trawshiliol

Mae angen ymdeimlad cadarn o hunaniaeth a chyfleoedd i'w ddatblygu. Oherwydd hyn, mae llawer o asiantaethau mabwysiadu yn chwilio am baru sydd mor agos â phosibl rhwng treftadaeth y plentyn a threftadaeth y rhai sy'n mabwysiadu.

Pan nad yw hi'n bosibl paru yn agos, caiff paru trawshiliol ei ystyried, gyda rhieni'n cael y dasg anodd o helpu eu plentyn gyda'i hunaniaeth. Dyma'n aml yw'r sefyllfa gyda mabwysiadu plant o wledydd eraill. Ystyriwch y cwestiynau canlynol:

· Fydd y plentyn yn rhan o gymuned lle mae o leiaf rai pobl yn adlewyrchu ei dreftadaeth?

· Sut fydd y gymuned yn helpu'r plentyn i ddatblygu ei hunaniaeth?

· Beth fydd angen i'r plentyn ei wybod am ei dreftadaeth? Fyddwch chi'n gallu ei helpu i ganfod hyn?

· Pa gyswllt fyddwch chi'n gallu ei gadw gyda theulu biolegol y plentyn?

Mabwysiadu plant o wledydd eraill

Yn aml bydd pobl yn clywed am drallod plant mewn gwledydd eraill a byddant am gynnig mabwysiadu un ohonyn nhw. Fodd bynnag, gall colli iaith, diwylliant a theulu estynedig y plentyn olygu nad hynny yw'r peth gorau ar eu cyfer o anghenraid.

Byddai Adoption UK yn annog unrhyw un sy'n meddwl am fabwysiadu i ystyried o ddifrif y posibiliadau o fabwysiadu plentyn o system gofal y Deyrnas Unedig.

Am wybodaeth fanylach ar fabwysiadu o wledydd eraill, cysylltwch â'r Ganolfan Mabwysiadu o Wledydd Eraill ar 0870 5168742.

Mae'r wybodaeth hon a rhagor ar gael yn llyfryn Adoption UK Guiding you Through the Adoption Process, sydd ar gael am ddim i aelodau Adoption UK. Ymunwch heddiw i gael eich copi am ddim...

*Ar ôl cymeradwyo mae'r rhan fwyaf o asiantaethau yn hoffi cael tri mis i geisio paru cyn mynd at ffynonellau allanol.