Wales

Would you like to support your adopted pupils’ mental health and wellbeing?

Join our fully funded training session for school staff working with adopted young people!

This training is for schools in North Wales only, due to funding provided by the National Lottery.

Dates: schools are required to attend both sessions.

Wednesday 22nd May and Wednesday 12th June.

Please note: This course is an interactive course, therefore cameras are expected to be turned on for most of the time. Please ensure you have a strong Wi-Fi connection. Up to 3 members of staff can join from the school, via 1 screen only.

The course brings together clinical expertise and lived experience and is delivered by a psychotherapist and an adopted young person over 2 days. They will help you to understand how early experiences of trauma and disrupted attachments can impact upon young people’s capacity to learn and thrive in education settings, and how to help. It is aimed at senior leaders and school staff looking to achieve a trauma informed environment for all; as well as those working closely with specific adopted learners.

Delegates are requested to come along with a specific learner in mind. You will be led to develop a support package that should help this young person to manage better in school. You will receive individualised feedback on your plan. You will be encouraged to put parts of the plan into practice between sessions and time will be allocated during the second session to talk about the approach and how it seems to be working.

The training supports staff to:

  • Understand why care experienced pupils may face additional challenges
  • Create a trauma-informed environment for all
  • Create specific Bespoke Relational Plans for learners who need them

Training Aims:

  • To allow you to feel more confident in discerning what is being communicated in challenging behaviour that we see in schools.
  • To allow you to think creatively about how to help learners with a history of developmental trauma to feel safe in school and get into a ‘Ready to Learn’ state.
  • To provide you with a wealth of tips and tricks shared with us by adopters, adopted people and other educators.
  • To support you to develop a bespoke plan for a specific young person.
  • For you to become more aware of your responses to this young person, and to get support with your own feelings.

Click here to register

Unfortunately our trainers are unable to deliver this training in Welsh but we do have a number of supporting materials which are available bilingually.

Feedback from previous sessions

"The personal sessions were incredibly useful, as we were able to discuss the individual needs of pupils within school and what we are currently able to provide, and how we could adapt our provision with training or additional reading/resources. Meghan was highly skilled and the information that she gave us was brilliant. The opportunity to discuss life from an adopted person’s view was very helpful as well, as it gave a completely different perspective on how we do things."

"I enjoyed being part of a small group where I felt comfortable to share experiences and take/give advice. Everything we discussed was relevant. Having personal feedback to my relational plan was wonderful, giving me confidence in helping my learner."


Forddiant llesiant wedi'i ariannu ar gyfer ysgolion yng Ngogledd Cymru

Hoffech chi gefnogi iechyd meddwl a lles eich disgyblion sydd wedi’u mabwysiadu?

Ymunwch â'n sesiwn hyfforddi wedi'i hariannu'n llawn ar gyfer staff yr ysgol sy'n gweithio gyda phobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu!

Mae'r hyfforddiant hwn ar gyfer ysgolion yng Ngogledd Cymru yn unig, oherwydd bod y cyllid yn cael ei ddarparu gan y Loteri Genedlaethol.

Dyddiadau: mae'n ofynnol i ysgolion fynychu'r ddwy sesiwn.

Dydd Mercher 22 Mai a dydd Mercher 12 Mehefin.

Sylwer: Mae'r cwrs hwn yn gwrs rhyngweithiol, felly disgwylir i gamerâu gael eu troi ymlaen am y rhan fwyaf o'r amser. Dylech sicrhau bod gennych chi gysylltiad Wi-Fi cryf. Gall hyd at 3 aelod o staff ymuno o'r ysgol, drwy 1 sgrin yn unig.


Mae'r cwrs yn dod ag arbenigedd clinigol a phrofiad byw ynghyd ac fe'i cyflwynir gan seicotherapydd a pherson ifanc wedi’u fabwysiadu dros 2 ddiwrnod. Byddant yn eich helpu i ddeall sut y gall profiadau cynnar o drawma ac ymlyniadau wedi’u hamharu effeithio ar allu pobl ifanc i ddysgu a ffynnu mewn lleoliadau addysg, a sut i helpu. Mae wedi'i anelu at uwch arweinwyr a staff ysgolion sy'n ceisio sicrhau amgylchedd sy'n wybodus o drawma i bawb; yn ogystal â'r rhai sy'n gweithio'n agos gyda dysgwyr wedi’u mabwysiadu penodol.


Gofynnir i gynrychiolwyr ddod draw gyda dysgwr penodol mewn golwg. Byddwch yn cael eich arwain i ddatblygu pecyn cymorth a ddylai helpu'r person ifanc hwn i ymdopi'n well yn yr ysgol. Byddwch yn derbyn adborth unigol ar eich cynllun. Fe'ch anogir i roi rhannau o'r cynllun ar waith rhwng sesiynau a bydd amser yn cael ei ddyrannu yn ystod yr ail sesiwn i siarad am y dull gweithredu a sut mae'n ymddangos ei fod yn gweithio.

Mae'r hyfforddiant yn cefnogi staff i wneud y canlynol:

  • Deall pam y gallai disgyblion â phrofiad gofal wynebu heriau ychwanegol
  • Creu amgylchedd sy'n wybodus o drawma i bawb
  • Creu Cynlluniau Perthynol Pwrpasol penodol ar gyfer dysgwyr sydd eu hangen

Nodau Hyfforddiant:

  • Eich galluogi i deimlo'n fwy hyderus wrth ddirnad yr hyn sy'n cael ei gyfleu mewn ymddygiad heriol rydyn ni’n ei weld mewn ysgolion.
  • Eich galluogi i feddwl yn greadigol am sut i helpu dysgwyr sydd â hanes o drawma datblygiadol i deimlo'n ddiogel yn yr ysgol a mynd i gyflwr 'Barod i Ddysgu'.
  • Rhoi cyfoeth o awgrymiadau a thriciau i chi sydd wedi cael eu rhannu gyda ni gan fabwysiadwyr, pobl wedi’u mabwysiadu ac addysgwyr eraill.
  • I'ch cefnogi i ddatblygu cynllun pwrpasol ar gyfer person ifanc penodolI chi ddod yn fwy ymwybodol o'ch ymatebion i'r person ifanc hwn, a chael cefnogaeth gyda'ch teimladau eich hun

Cliciwch yma i gofrestru

Yn anffodus nid yw ein hyfforddwyr yn gallu darparu'r hyfforddiant hwn yn Gymraeg ond mae gennym ni nifer o ddeunyddiau ategol sydd ar gael yn ddwyieithog.

Adborth o sesiynau blaenorol

"Roedd y sesiynau personol yn hynod ddefnyddiol, gan ein bod yn gallu trafod anghenion unigol disgyblion yn yr ysgol a'r hyn y gallwn ni ei ddarparu ar hyn o bryd, a sut y gallem addasu ein darpariaeth gyda hyfforddiant neu ddarllen/adnoddau ychwanegol. Roedd Meghan yn fedrus iawn ac roedd y wybodaeth a roddodd i ni yn wych. Roedd y cyfle i drafod bywyd o safbwynt person wedi’i fabwysiadu yn ddefnyddiol iawn hefyd, gan ei fod yn rhoi persbectif hollol wahanol ar sut rydyn ni'n gwneud pethau."

"Roeddwn i'n mwynhau bod yn rhan o grŵp bach lle roeddwn i'n teimlo'n gyfforddus i rannu profiadau a chymryd/rhoi cyngor. Roedd popeth y gwnaethom ni ei drafod yn berthnasol. Roedd cael adborth personol i'm cynllun perthynol yn wych, gan roi hyder i mi wrth helpu fy nysgwr.”